Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

5 Rhagfyr 2016

SL(5)038 – Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb EU 2015/2203 sy'n ymwneud â chaseinau a chaseinadau wedi eu bwriadu i’w bwyta gan bobl.

Mae’r Rheoliadau, ymhlith pethau eraill:

-     yn rhagnodi diffiniadau a safonau ar gyfer cynhyrchion casein penodol,

-     yn gwahardd defnyddio unrhyw gasein neu gaseinad wrth baratoi bwyd os nad yw'n cydymffurfio â safonau neilltuol,

-     yn gosod rhwymedigaeth ar bob cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol i orfodi'r Rheoliadau yn ei ardal.

Deddf Wreiddiol: Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 [Saesneg yn unig]

Fe’u gwnaed ar: 20 Tachwedd 2016

Fe'u gosodwyd ar: 25 Tachwedd 2016

Yn dod i rym ar: 22 Rhagfyr 2016

SL(5)039 - Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol) 2016

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (a nodir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (Saesneg yn unig) fel y mae’n cael effaith yng Nghymru) (“y Cynllun”).

Mae erthygl 2(2) yn dileu’r rhwymedigaeth ar ddiffoddwyr tân i dalu cyfraniadau ar gyfer y cyfnod ar ôl iddynt ennill yr hawlogaeth pensiwn mwyaf a ganiateir nes iddynt gyrraedd 50 oed, yr oedran isaf ar gyfer tynnu allan fuddion. Mae’r newid yn cael effaith o 1 Rhagfyr 2006. Mae adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 yn caniatáu i ddarpariaethau gael effaith ôl-weithredol.

Mae erthyglau 2(3) a 3 yn darparu bod unrhyw gyfraniadau o’r fath a dalwyd rhwng 1 Rhagfyr 2006 a’r dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym yn cael eu had-dalu.

Deddf Wreiddiol: Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 [Saesneg yn unig]

Fe’i gwnaed ar: 22 Tachwedd 2016

Fe'i gosodwyd ar: 25 Tachwedd 2016

Yn dod i rym ar: 31 Rhagfyr 2016